Twristiaeth ac Economi Cymru
Ffeithiau Sydyn (2007)
- Ar eu gwyliau y daeth 73% o dwristiaid y DU a ddaeth i Gymru
- Daeth 14% i ymweld a ffrindiau neu berthnasau a 9% ar daith fusnes
- Daeth twristiaid tramor ar bron 0.9 milliwn o deithiau i Gymru. O Weriniaeth Iwerddon, UDA, Ffrainc a'r Almaen yr oedd y nifer fwyaf o ymwelwyr tramor yn dod.
- Ymwelwyr o'r DU ddaeth ar 90% o'r tripiau dros nos ond roedd ymwelwyr tramor yn aros am fwy o amser (yn cyfateb i 16% o'r nosweithiau). Felly mae ymwelwyr o dramor yn cyfrannu mwy at gyfanswm y gwariant ( h.y. mae ymwelwyr tramor yn gwario mwy).
- Gwariodd ymwelwyr dros nos tua £1.7 biliwn yng Nghymru.
- Aeth 37% o'r ymwelwyr o'r DU oedd ar deithiau dros nos i Gymru i lan y mor.
- Mewn blwyddyn, gwariwyd £1.5 biliwn ar deithiau twristiaeth.
- Yn 2005, roedd tua 100,400 o bobl yn gweithio naill ai llawn amser neu rhan amser mewn swyddi'n ymwneud a thwristiaeth yng Nghymru.
Ffynhonnell: Croeso Cymru


