Gair Amdanom Ni
Gair Amdanom Ni
Mae'r WTA yn cydweithio â'r diwydiant, y Cynulliad a Croeso Cymru ac â VisitBritain hefyd ar faterion sy'n berthnasol i holl wledydd Prydain. Mae'n ceisio meithrin cysylltiadau rhwng sectorau a chodi'r prif faterion polisi gyda'r gwleidyddion a Croeso Cymru.
"Ers gormod o amser, mae twristiaeth wedi'i weld fel diwydiant darniog; mae lansio WTA Ltd wedi sicrhau ein bod yn ymdrin â materion y diwydiant mewn ffordd gydgysylltiedig trwy Gymru gyfan," meddai cadeirydd WTA Ltd, Julian Burrell.
"Rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad â gwleidyddion a phobl allweddol yn y diwydiant er mwyn hybu buddiannau'r diwydiant a chodi ymwybyddiaeth o farn ac anghenion y busnes."
"Mae'n rhaid i'r diwydiant croeso gael llais yn y broses benderfynu ar faterion sy'n effeithio ar bawb ohonom."
Er mwyn sicrhau bod pob sector a phob rhan o Gymru'n cael cyfrannu at y broses o wneud polisïau, mae Bwrdd gan WTA Ltd sy'n cynnwys grŵp o bobl brofiadol ac uchel eu parch o bob rhan o Gymru sy'n arweinwyr yn y diwydiant.
Y Bwrdd
Yn ogystal â'r Cadeirydd, Julian Burrell, sy'n cynrychioli Cymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru (WASCO), yr aelodau yw John Walsh-Heron, (Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru), Esther Roberts o Twristiaeth Gogledd Cymru, (Cwmnïau Twristiaeth Rhanbarthol), David Williams (British Hospitality Association), Syr Brooke Boothby (y sector carafanau), Ian Rutherford (Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA) a Tony McGetrick (Cymdeithasau Twristiaeth De Orllewin Cymru).
Fel rheol, mae'r Bwrdd yn cyfarfod bob mis ac mae WTA Ltd yn cynnal cyfarfod cyffredinol ar gyfer yr holl sefydliadau sy'n aelodau ohono bob chwarter.
"Mae ein haelodau'n cynnwys sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol o bob rhan o Gymru sy'n ymwneud â thwristiaeth. Mae'n hanfodol ein bod yn canfod materion strategol ac yn eu hyrwyddo er mwyn i'r diwydiant croeso yng Nghymru barhau i lwyddo a dyna yw'r prif beth sy'n llywio ein gwaith. Rydym yn hyderus y gallwn gwneud gwahaniaeth go iawn a gwneud lles i'r diwydiant," meddai Mr Burrell.
Dywedodd Jonathan Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata, Llywodraeth Cynulliad Cymru – Croeso Cymru, "Rydym wrth ein bodd o weld Cynghrair Twristiaeth Cymru'n mynd o nerth i nerth ac rydym yn rhoi ein cefnogaeth lwyr i gorff sy'n rhoi llais mor gryf i'r diwydiant croeso. Dydyn ni ddim yn disgwyl y byddwn ni'n cytuno ar bopeth ond byddwn bob amser yn cydweithio er budd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru."
Cynhaliodd y WTA y gynhadledd gyntaf erioed ar gyfer y diwydiant croeso ledled Cymru yn yr Hilton, Caerdydd ym mis Tachwedd 2002; roedd yn llwyddiant ysgubol ac felly daeth yn achlysur blynyddol.
Cynhaliwyd y Gynhadledd Dwristiaeth Genedlaethol eleni yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod, Powys ar 2 a 3 Tachwedd 2008.


