Cynhadledd Flynyddol WTA
Cynhadledd Flynyddol WTA 2008
'Gwireddu ein Potensial: Goroesi ac Adfywio yn 2009' oedd thema 7fed Gynhadledd Dwristiaeth Flynyddol y WTA yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod ar 2 a 3 Tachwedd 2008.
Roedd prif themâu'r Gynhadledd yn ymwneud â marchnata, cydweithio â'r Llywodraeth, buddsoddiad, y wasgfa gredyd ac ymateb i'r glaw.
Galwodd Julian Burrell, Cadeirydd y WTA, ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud mwy i gydnabod y cyfraniad economaidd mawr y mae ein diwydiant yn ei wneud i bob rhan o Gymru ac i ddeall yr angen am fuddsoddiad strategol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y trefniadau di-ail sydd gan ein diwydiant ledled Cymru.
Y prif siaradwyr ar ddydd Llun 3 Tachwedd oedd :
David Edwards, VisitBritain - Twristiaeth, y Wasgfa Gredyd a Goroesi'r Sefyllfa Ariannolâ�¨Jonathan Jones, Croeso Cymru – y Llywodraeth a'r Diwydiantâ�¨Roger Pride, Croeso Cymru – Marchnata, y Flwyddyn o'n Blaenâ�¨Michele Grant, L&R Consulting – Adolygiad WTA o'r Diwydiant: Gweithredu ar gyfer y Dyfodolâ�¨Mike Batt, yr Ymddiriedolaeth Garbon – Cydweithio â'r Diwydiant i Dorri Costau a Charbonâ�¨Sharon Linnard, LlCC – Cymorth Hyblyg i Fusnesau
Mae Cinio'r Diwydiant Croeso yng Nghymru, a gynhaliwyd eleni ar ddydd Sul 2 Tachwedd a'i noddi gan y BHA, wedi ennill ei blwyf fel achlysur cymdeithasol y flwyddyn i'r diwydiant. Y Gweinidog newydd dros Dwristiaeth, Alun Ffred Jones a roddodd yr anerchiad cyweirnod eleni.
Yn ei anerchiad, dywedodd y Gweinidog fod Cymru'n Un yn cynnwys ymrwymiadau pendant ar gyfer gweithio i helpu i ddatblygu diwydiant a all ymateb i'r heriau sy'n codi oherwydd y cynnydd mewn cystadleuaeth a disgwyliadau uwch. Er enghraifft: parhau i ymdrechu i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd allanol; datblygu a hyrwyddo brand Cymru; cefnogi twristiaeth wrth i'r farchnad symud tuag at wyliau byrrach a gwyliau gweithgareddau; buddsoddi'n strategol mewn cyfleusterau a sgiliau twristiaeth; hyrwyddo cyfraniad Cymru at ddigwyddiadau rhyngwladol ym myd y campau gan adeiladu ar gyfleoedd Cwpan Ryder; ac adeiladu ar y gwaith a wnaed i godi proffil rhyngwladol Cymru.
Amlinellodd y Gweinidog y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth y Cynulliad a'r arian sydd ar gael ar gyfer y diwydiant croeso gan ddweud: "Rydym yn croesawu'r £4.2m ychwanegol ar gyfer marchnata sydd wedi rhoi hwb sylweddol i ymgyrchoedd yr haf a'r hydref yn y Deyrnas Unedig ac a fydd yn golygu y gallwn gael ymgyrch fwy o lawer na'r disgwyl yng ngwledydd Prydain ym mis Ionawr i ysgogi archebion cynnar ar gyfer 2009. Mae wedi'n galluogi i gael ymgyrchoedd teledu ac i ehangu ein hymgyrchoedd rhyngwladol. Mae'r Gronfa Fuddsoddi Sengl yn agored i dwristiaeth nawr – sy'n golygu y gall fod mwy o arian ar gael i fusnesau twristiaeth.
"Yn ogystal, mae cymorth ar gael i dwristiaeth trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, becyn gwerth £47.8 miliwn dros y tair blynedd nesaf, gyda blaenoriaeth i brosiectau sy'n annog gweithgareddau twristiaeth a gwarchod ein treftadaeth.
“Mae gan dwristiaeth ran ganolog ym Menter Blaenau'r Cymoedd, sy'n gynllun 15 mlynedd gwerth £140 miliwn; dros y tair blynedd nesaf, bwriedir buddsoddi cyfanswm o £23 miliwn mewn twristiaeth yn y rhanbarth, yn cynnwys £9 miliwn o Gronfa Gydgyfeirio'r UE, fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews. Yn ogystal, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog yn ddiweddar y bydd £15 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf ar gyfer Cynllun Gweithredu Môn a Menai – bydd nifer o'r prosiectau hynny'n canolbwyntio ar dwristiaeth; a chymorth i adfywio trefi glan môr y Rhyl a Bae Colwyn. Fel y gwelwn, mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol mewn sawl agwedd ar fywyd Cymru."


