Aelodau
Mae'r WTA, trwy'r sefydliadau sy'n aelodau, yn cynrychioli tua 7000 o fusnesau twristiaeth sy'n ymwneud â phrif sectorau'r diwydiant i gyd – gwestai, llefydd gwely a brecwast, tai gwesty, y sectorau carafanio a gwersylla, llety hunanddarpar, tywysyddion ymwelwyr, gweithgareddau, atyniadau, hostelau ieuenctid a llawer o fusnesau eraill sydd â chysylltiad clos â thwristiaeth. Mae'r sefydliadau sy'n aelodau yn cynnwys cyrff Prydeinig, Cymreig a rhanbarthol.
Dyma'r sefydliadau sy'n aelodau o'r WTA:
A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z
Association of Welsh Agents / Cymdeithas Asiantau Cymru
Mae'r Gymdeithas yn cynnwys bron bob asiantaeth sydd â'i phrif swyddfa yng Nghymru (ac un ychydig dros y ffin!). Gyda'i gilydd, mae ei haelodau'n marchnata tua 2,500 o unedau hunanddarpar.
Mae'r grwp yn ceisio hwyluso cyfathrebu rhwng yr Asiantau Hunanddarpar, Croeso Cymru a'r WTA.
Ysgrifennydd y Grwp – Barbara Griffiths
barbara@nwhc.co.uk
British Hospitality Association
British Hospitality Association
Y British Hospitality Association yw'r gymdeithas sy'n cynrychioli'r diwydiant gwestai, bwytai ac arlwyo ledled Prydain. Mae'n gweithredu yn Whitehall a San Steffan, ym Mrwsel, ac yn y Cynulliad yng Nghymru a Senedd yr Alban gan ymdrin â nifer o faterion fel cyfarwyddebau cyflogaeth, dosbarthu llety a bwytai a'u graddio.
Mae Pwyllgor BHA Cymru'n cynrychioli pobl sy'n rhedeg gwestai, tai bwyta a busnesau arlwyo yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn un o aelodau cyntaf Cynghrair Twristiaeth Cymru a chymryd rhan amlwg yn y gwaith, mae'r Gymdeithas mewn cysylltiad clos â Croeso Cymru.
Cysylltwch â: bha@bha.org.ukwww.bha-online.org.uk
British Holiday & Home Park Association
Mae'r British Holiday & Home Parks Association (BH&HPA) yn cynrychioli'r diwydiant parciau gwyliau a pharciau cartrefi yn y Deyrnas Unedig. Mae gan BH&HPA 303 o aelodau yng Nghymru sy'n rheoli neu'n berchen ar 365 o barciau carafanau, cartrefi gwyliau, cabanau a charafanau symudol, lle ceir tua 200,000 o welyau i ymwelwyr.
Mae BH&HPA yn lobïo'n helaeth ar ran ei aelodau ac yn cynnig cyngor ar lu o wahanol faterion trwy wefan i aelodau'n unig, llawlyfr, cylchgrawn bob yn ail fis a rhwydwaith o gynghorwyr arbenigol. Mae gwefan gyhoeddus, ynghyd â chyfeiriaduron a chanllawiau arbenigol, yn hyrwyddo'r diwydiant i'r cyhoedd. Trefnwyd prisiau manteisiol i aelodau gyda rhai o'r brif gwmnïau yswiriant a gwasanaethau ariannol.
Cysylltwch â: enquiries@bhhpa.org.uk
The Camping and Caravanning Club
www.campingandcaravanningclub.co.uk
"The Camping and Caravanning Club" yw'r clwb hynaf o'i fath yn y byd. Cafodd ei sefydlu ym 1901.
Erbyn heddiw mae ganddo 400,000 o aelodau ac mae'n cynnig popeth y mae arnynt ei angen ar gyfer gwyliau gwersylla gwych.
Mae gennym rwydwaith o bron gant o feysydd ardderchog yn cynnwys chwech yng Nghymru. Mae gan y Clwb drefniadau cynllunio arbennig sy'n golygu ei fod yn cael rhoi caniatâd i ffermwyr a pherchnogion tir eraill yng Nghymru sefydlu meysydd carafanau bychan heb fod angen caniatâd cynllunio.
Mae'r Clwb yn cynnig nifer o wasanaethau eraill fel yswiriant carafanau, achub o ochr y ffordd a gwasanaethau ariannol yn ogystal â chynnig cyngor a chymorth technegol i'w aelodau.
Cysylltwch ag: Alison.bollons@thefriendlyclub.co.uk
The Caravan Club
Y Caravan Club yw prif gymdeithas Ewrop o'i bath ac mae'n cynrychioli buddiannau 850,000 o bobl sydd â charafanau, carafanau modur a phebyll trelar. Gan y Clwb y mae'r rhwydwaith preifat mwyaf o safleoedd safonol yn y DU ac mae ganddo 2,700 o 'Certified Locations' (CLs – meysydd bach â lle i hyd at 5 carafan ar dir ffermydd, plastai ac ati). Mae'n cynnig nifer sy'n cyfateb i 18 miliwn o 'nosweithiau gwely' y flwyddyn.
Mae gan y Caravan Club ddeunaw o feysydd yng Nghymru, yn cynnwys maes y Jiwbilî Aur ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau ar 14 o'r meysydd hyn. Mae 320 o CLs yng Nghymru hefyd.
Ewch i'n gwefan i weld yr holl wasanaethau a gweithgareddau a gynigir, yn cynnwys: cyrsiau carafanio ymarferol; yswiriant ar gyfer carafanau, ceir, cartrefi a theithio; gwasanaethau achub, cyngor technegol a manylion holl feysydd y Clwb.
Cysylltwch â: Fiona Bewers fiona.bewers@caravanclub.co.uk
Farm Stay UK
Mae Farm Stay UK yn sefydliad Prydeinig i aelodau ac mae'n hyrwyddo'r syniad o dwristiaeth ar ffermydd yn y DU. Mae'n cynnig help i aelodau i ehangu eu busnesau trwy fynd ati i roi cymorth i farchnata a gwerthu ac mae'n helpu ffermwyr i ehangu eu sylfaen incwm trwy arallgyfeirio
Mae'r aelodau'n cael cyfle i gwrdd â'i gilydd yn y Gynhadledd Flynyddol â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac mae pob rhanbarth yn cwrdd ar wahân yn y gwanwyn a'r hydref.
Cadeirydd Farmstay Cymru – Clare Bale info@cyfiefarm.co.uk
Federation of Small Businesses / Ffederasiwn y Busnesau Bach
Mae'r FSB (Ffederasiwn Cenedlaethol Pobl Hunangyflogedig a Busnesau Bach) yn sefydliad busnes sy'n lobïo ac yn ymgyrchu ac mae'r Llywodraeth a'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynghori ag ef yn aml. Yng Nghymru, mae'r FSB yn lobïo ASau ac ACau yn rheolaidd ar newidiadau i gyfraith cyflogaeth a rheoliadau busnes. Yn ogystal, mae'r FSB yn ymateb i ddogfennau ymgynghorol gan sicrhau bod llais perchnogion busnesau bach yn cael ei glywed. Caiff ei gynrychioli ar nifer o gyrff cyhoeddus.
Cysylltwch â: Michael Learmond ro.northwales@fsb.org.uk
Forum for Small Serviced Accommodation Operators in Wales / Fforwm Llety Bach a Gwasanaeth yng Nghymru
Sefydlwyd y Fforwm ym mis Mai 2004 o dan nawdd y WTA i gynrychioli barn pobl yng Nghymru sy'n cadw llety gwely a brecwast neu westai bach â 10 neu lai o lofftydd i'w gosod.
Mae'n barod i drafod pob mater sydd o ddiddordeb i'r rhan hon o'r diwydiant ac i gyfnewid barn o fewn y diwydiant a gyda sefydliadau fel Croeso Cymru.
Mae'r fforwm yn cynnwys dau gynrychiolydd bob un o Twristiaeth Gogledd Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, FarmStay Wales, Cymdeithasau Twristiaeth De Orllewin Cymru a Fforwm Twristiaeth De Ddwyrain Cymru.
Cysylltwch â: Cadeirydd y Fforwm - Tony Milan guidfa@globalnet.co.uk
Ysgrifennydd y Fforwm - Val Hawkins valh@midwalestourism.co.uk
Mid Wales Tourism / Twristiaeth Canolbarth Cymru
Sefydlwyd Twristiaeth Canolbarth Cymru (MWT) ym 1991. Dyma'r prif sefydliad rhanbarthol i aelodau (tua 600 o aelodau) sy'n cefnogi'r diwydiant trwy Bowys, Ceredigion ac ardal Meirionnydd yng Ngwynedd.
Mae MWT yn cynrychioli buddiannau twristiaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnig gwasanaethau marchnata a gwasanaethau eraill i fusnesau twristiaeth y Canolbarth.
Yn 2004, ehangodd MWT i weithredu yn Ne Ddwyrain a De Orllewin Cymru ac, mewn partneriaeth â'i chwaer gwmni, Twristiaeth Gogledd Cymru, cyflwynodd frand 'Twristiaeth Cymru' i adlewyrchu apêl ehangach y ddau sefydliad.
Cysylltwch â: Val Hawkins
valerie.hawkins@tourismwales.co.uk
National Caravan Council
Sefydlwyd y National Caravan Council ym 1939 fel cymdeithas fasnach y diwydiant carafanau yn y DU. Mae gan yr NCC fwy na 500 o aelodau ac mae'n cynrychioli gwneuthurwyr a gwerthwyr carafanau, meysydd carafanau, a darparwyr nwyddau a gwasanaethau i garafanwyr ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon.
Yn ogystal, mae gan yr NCC gysylltiadau cryf â charafanwyr cyffredin gan ei fod yn mynychu sioeau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae llawer o wasanaethau'r NCC yn berthnasol i garafanwyr a cheir esboniad manwl ohonynt ar y wefan a lansiwyd yn ddiweddar – www.thecaravan.net.
Cysylltwch â: info@nationalcaravan.co.uk
North Wales Tourism / Twristiaeth Gogledd Cymru
Twristiaeth Gogledd Cymru (NWT) yw'r prif gorff i aelodau'r diwydiant croeso yn y Gogledd. Mae'n sicrhau llais unedig ar gyfer busnesau twristiaeth yn y Gogledd.
Mae'r NWT yn cynrychioli dros 1200 o fusneau ac mae'n cynnig cymorth i'r diwydiant croeso yn yr ardal gan weithio mewn partneriaethau.
Busnesau llety fel gwestai, tai gwesty, tafarndai sy'n cynnig llety, llety hunanddarpar, meysydd carafanio a gwersylla, ynghyd ag atyniadau ymwelwyr, tai bwyta, siopau ac eraill sy'n aelodau.
Cysylltwch ag: Esther Roberts esther.roberts@nwt.co.uk
South East Wales Tourism Forum / Fforwm Twristiaeth De Ddwyrain Cymru
Sefydlwyd Fforwm Twristiaeth De Ddwyrain Cymru ym mis Chwefror 2005 i roi cyfle i randdeiliaid oedd â diddordeb mewn datblygu twristiaeth yn y rhanbarth gyfnewid syniadau. Yn arbennig, mae'n dwyn ynghyd gymdeithasau twristiaeth a grwpiau cynrychiolwyr yn rhanbarth y De Ddwyrain, a'r Uwch Ranbarth Twristiaeth, Cynghrair Twristiaeth Cymru a phobl sy'n ymwneud â thwristiaeth yn y Rhanbarth.
Cysylltwch â: Cadeirydd y Fforwm - Mandy Davies - info@crosswayshouse.co.uk
Ysgrifennydd y Fforwm - Adrian Greason-Walker adrian@tourismwales.co.uk
South West Wales Tourism Associations / Cymdeithasau Twristiaeth De Orllewin Cymru
Mae tair cymdeithas dwristiaeth leol y de orllewin (Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr, Twristiaeth Sir Benfro, Twristiaeth Abertawe, Twristiaeth Castell-nedd a Phort Talbot) yn sicrhau bod y diwydiant croeso a lletygarwch yn Ne Orllewin Cymru yn cael cymorth sefydliadau y mae'r fasnach yn berchen arnynt ac yn eu cyfarwyddo ac sy'n cydweithio â'r bartneriaeth i ddarparu strategaethau twristiaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Cysylltwch â:Twristiaeth Sir Gâr - Nia Ball nia@visitcarmarthenshire.co.uk
Twristiaeth Sir Benfro - Rachel Hicks rachel@pembrokeshire-tourism.net
Twristiaeth Bae Abertawe - Tony McGetrick tony@castlehotelneath.co.uk
Tourism Training Forum for Wales / Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Cymru
Mae Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ar arweiniad i fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae'n cydweithio â darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn y diwydiant er mwyn sicrhau bod ansawdd a hyfforddiant yn ganolog i ddiwydiant croeso Cymru.
Cysylltwch â: Diana James diana.james@ttfw.org.uk
Wales Association of Self-Catering Operators / Cymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru
WASCO yw llais darparwyr llety hunanddarpar yng Nghymru ac mae'n gweithio trwy'r WTA fel grŵp ffocws/pwysedd i hyrwyddo anghenion twristiaeth ac i roi gwybod i'r awdurdodau lleol, y Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth yn Llundain am anghenion a phroblemau'r diwydiant croeso.
Cysylltwch â: Graham Tayler grahamtyler@btinternet.com
Wales Official Tourist Guides Association / Cymdeithas Tywysyddion Swyddogol Cymru
Sefydlwyd Cymdeithas Tywysyddion Swyddogol Cymru ym 1983 i hyrwyddo a chynrychioli buddiannau tywysyddion ymwelwyr cymwysedig (hunangyflogedig) yng Nghymru.
Erbyn hyn, mae ganddi dros gant o aelodau a chysylltiadau cryf â'r Institute of Tourist Guides. Rydym yn gwetihio ledled Cymru gyda chymeradwyaeth Bwrdd Croeso Cymru.
Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer datblygiad proffesiynol ddwywaith y flwyddyn er mwyn gloywi ein gwybodaeth a'n sgiliau fel y gallwn gynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n cleientiaid.
Cysylltwch â: David Durrington daviddurrington@yahoo.co.uk
Welsh Association of Visitor Attractions / Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru
Mae WAVA yn dwyn atyniadau ymwelwyr ynghyd gan weithredu er eu budd. Mae'n cynnig cyngor i Croeso Cymru ar ddatblygu gwasanaethau ymarferol a realistig, cynlluniau graddio a chyfleoedd i farchnata.
Mae cyfarfodydd WAVA yn gyfle i gwrdd â phobl sy'n rhedeg atyniadau ledled y wlad i rwydweithio a thrafod llawer o'r materion sy'n codi ar hyn o bryd. Trwy aelodaeth o Gynghrair Twristiaeth Cymru, mae llais y cynrychiolwyr yn cael ei gylywed trwy Gymru.
Cysylltwch â: Ian Rutherford info@kingarthurslabyrinth.co.uk
Youth Hostels Association / Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid
Mae'r YHA yn cynnig llety fforddiadwy mewn 36 o hostelau ieuenctid ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ym mharciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro.
Cysylltwch ag: Anna Williams annawilliams@yha.org.uk


